Cymru

Mae Dyma Ieuenctid 2024 yn cydnabod ac yn dathlu’r straeon anhygoel tu ôl i wobr DofE. Mae’n tynnu sylw at y bobl ifanc a’r oedolion sy’n eu cefnogi yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud arau: codi uwchlaw heriau’r oes a gwneud eu marc ar y byd, yn eu ffordd eu hunain. Does dim dwy daith DofE yr un fath – a bydd pob unigolyn yn gwneud gwahaniaeth.

O waith tîm ac arloesi i oresgyn heriau personol, hoffem daflu goleuni ar y pethau anhygoel y mae pobl ifanc yn eu gwneud trwy DofE, beth bynnag fo’u hoedran neu lefel eu Gwobr, er mwyn ysbrydoli ac annog eraill.

Ac rydym yn awyddus i dynnu sylw at ymrwymiad, angerdd ac arloesedd digyffelyb yr oedolion sy’n rhoi grym i DofE – gan newid bywydau’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi. Mae Dyma Ieuenctid 2024 yn amlygu ystod a chyrhaeddiad DofE, gan dynnu sylw at y straeon sy’n haeddu cydnabyddiaeth.

Mae enwebiadau ar gyfer Dyma Ieuenctid 2024 bellach ar agor – ac mae angen eich help arnom! Os ydych chi’n adnabod person ifanc neu oedolyn y dylid dathlu ei stori, neu os oes gennych chi eich hun stori o’r fath, mae gwybodaeth am sut i enwebu isod.

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.