Dysgu Cymraeg gyda Gwobr Dug Caeredin
Mae Gwobr Dug Caeredin (DofE) a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi lansio partneriaeth newydd i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau Cymraeg ar gyfer adran Sgil eu Gwobr DofE.
Mae’r Ganolfan wedi datblygu’r adnodd newydd yn arbennig ar gyfer cyfranogwyr DofE, ac mae ar gael am ddim i rheiny sy’n 16-25 oed. Mae’n cynnwys 13 uned sy’n cyfuno hunan-astudio ar-lein gyda thasgau ymarferol, gan gyflwyno geiriau, ymadroddion a phatrymau iaith, a themâu cerddoriaeth a diwylliant Cymru.
Dylan, un o Lysgenhadon Ifanc DofE Cymru, oedd un o’r cyntaf i ddefnyddio’r adnodd newydd, a dyma beth yw ei farn ef: “Mae’n wych cael yr adnodd newydd yma fel opsiwn adran sgiliau ar gyfer cyfranogwyr DofE. Roedd y modiwlau yn berthnasol ac yn ddiddorol, ac roeddwn i’n hoffi bod y cwrs wedi’i drefnu yn fodiwlau wythnosol o un awr yr un er mwyn cyfri tuag at adran sgil y Wobr. Dyma gyfle gwych i ddysgu ac ymarfer ychydig o Gymraeg a datblygu sgil a fydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Steph Price, Cyfarwyddwr Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru, “Rydyn ni’n hynod o falch o allu cynnig yr adnodd newydd yma, yn rhad ac am ddim, i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y DofE.
“Rydyn ni’n gwbl ymroddedig i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a hyder i ffynnu yn eu dyfodol, ac mae’r adnodd Dysgu Cymraeg yn ychwanegu at y cyfleoedd sydd ar gael i gyfranogwyr DofE.”
Sut i gael mynediad at yr adnodd
Dilynwch y linc yma i gofrestru ar gyfer yr adnodd ac i ddechrau dysgu Cymraeg ar gyfer adran sgiliau eich Gwobr DofE.