Sut gallwch chi baratoi ar gyfer byd gwaith?

Beth yw’r sgiliau allweddol y bydd eu hangen arnoch i lwyddo?

Sut gall eich profiad DofE helpu?

Nid ffair yrfaoedd arferol arall ydy Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW: Tu Hwnt i’r CV yn ddigwyddiadau cyffrous ac unigryw sydd â’r bwriad o gefnogi pobl ifanc, fel chi, wrth i chi ymchwilio a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen wrth i chi bontio i gyflogaeth. Yn eu plith, mae:

  • Gweithdai am lwybrau tuag at gyflogaeth, ymgeisio am swyddi, brandio personol a chyfathrebu
  • Trafodaethau panel am ganfod eich ffordd trwy’r dyfodol gyda gweithwyr proffesiynol ifanc
  • Prif siaradwyr gwadd o blith cyflogwyr ac arweinwyr busnes
  • Cyfleoedd i ymgysylltu â chyflogwyr

Bydd y digwyddiadau’n eich helpu i siarad am eich cryfderau a’ch profiadau DofE pan fyddwch chi’n ymgeisio am waith. Cewch chi weld sut bydd eich profiadau DofE yn dal i’ch helpu chi yn y gweithle ymhell tu hwnt i’ch cais am swydd a’ch cyfweliad.

Maen nhw’n agored i rai sydd wrthi’n cyfranogi yng Ngwobrau DofE a rhai a enillodd Wobrau’n ddiweddar, maen nhw’n gwbl hygyrch ac yn rhad ac am ddim. Byddwn ni’n darparu cinio a lluniaeth drwy’r dydd yn ogystal â phopeth sydd ei angen i gael cymryd rhan lawn yn y digwyddiad a’r holl weithgareddau.

Uchafbwyntiau o Tu Hwnt i’r CV: Manceinion

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.