This is Youth Cwestiynau Cyffredin
Beth yw This is Youth?
Mae This is Youth yn ffordd i Wobr Dug Caeredin gydnabod a dathlu pobl ifanc sy’n gwneud eu DofE neu sydd wedi cyflawni eu Gwobr yn ddiweddar, a’r oedolion sy’n eu cefnogi. Mae This is Youth yn cydnabod y rhai sy’n dylanwadu ar eu bywydau eu hunain a thu hwnt, gan ddefnyddio’r DofE fel sylfaen i weithredu.
Gellir enwebu pobl ifanc mewn chwe chategori:
- Effaith Gymunedol: Cyflawnwr Newid y Flwyddyn
- Digidol a Chreadigol: Dyfeisiwr y Flwyddyn
- Hyrwyddwr Amgylcheddol: Amddiffynnydd y Blaned y Flwyddyn
- Gwydnwch: Torrwr Ffiniau’r Flwyddyn
- Gwaith Tîm: Sêr Disgleiriaf y Flwyddyn
- Arweinyddiaeth: Arloeswr y Flwyddyn
Gellir enwebu oedolion mewn dau gategori:
- Oedolyn sy’n ysbrydoli: Newidiwr Bywydau’r Flwyddyn
- Gwasanaeth Eithriadol: Arweinydd y Flwyddyn
Byddwn yn dewis pobl sy’n wirioneddol yn ysbrydoli ar draws yr wyth categori a fydd yn cael eu gwahodd, gyda gwestai, i ddathliad arbennig yn Llundain. Byddwn hefyd yn rhannu eu straeon trwy fis Rhagfyr er mwyn dathlu eu cyflawniadau rhagorol ac i ysbrydoli ac annog eraill.
Mae gwahanol fath o gyflawniad, ac rydym ni’n awyddus i glywed am bobl ifanc anhygoel o bob cwr o DofE. P’un a ydynt newydd ddechrau ar eu taith i wobr Efydd, neu wedi cyrraedd y wobr Aur yn barod, byddant yn gwneud gwahaniaeth – ac rydym ni am ddathlu hynny. Rydym ni’n chwilio am bobl ifanc ac oedolion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, ble bynnag y maent yn gwneud neu’n cyflwyno DofE – o ysgolion i grwpiau cymunedol ac o fusnesau i garchardai.
Categorïau 1 – 6: Pobl ifanc
Pob cyfranogwr sy’n cymryd rhan yn DofE ar hyn o bryd neu ddeiliaid Gwobrau diweddar (y rhai a enillodd Wobr rhwng Medi 2022 ac Awst 2023). O ran y cyfranogwyr presennol, rydym yn arbennig o awyddus i glywed am weithgaredd sydd wedi digwydd rhwng Medi 2022 ac Awst 2023.
Cyfranogwr yw unrhyw berson ifanc sy’n cymryd rhan yng Ngwobrau DofE ar unrhyw lefel ar hyn o bryd, ac sy’n breswylydd yn y Deyrnas Unedig.
Mae deiliaid Gwobrau diweddar yn gymwys i gael eu henwebu os ydynt wedi cyflawni’r Wobr ar unrhyw lefel rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2023.
Nid yw pobl a enillodd eu Gwobr yn 2022 neu’n gynharach nad ydynt wedi cofrestru ar raglen DofE ar hyn o bryd yn gymwys i ymgeisio.
Categorïau 7 ac 8: Oedolion
Oedolyn yw unrhyw oedolyn, dros 18 oed, sy’n cefnogi cyflwyno rhaglenni DofE i bobl ifanc ac sy’n breswylydd yn y Deyrnas Unedig. Yn benodol, rydym yn gobeithio cydnabod Arweinwyr a Rheolwyr DofE, ond ceir enwebu oedolion sy’n cefnogi’r Wobr mewn unrhyw swyddogaeth. Os nad oes gan oedolyn e-gyfrif DofE sy’n golygu nad oes modd i chi lenwi’r ffurflen gofrestru, e-bostiwch [email protected] a byddwn yn barod i’ch helpu.
Categori 7: Newidiwr Bywydau’r Flwyddyn
Rydym ni’n arbennig o awyddus i gydnabod a dathlu’r rhai sydd wedi dechrau ar y rôl yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Categori 8: Arweinydd y Flwyddyn
Oedolion dros 18 oed sydd wedi bod yn cefnogi’r DofE am 10 mlynedd neu fwy.
Ceisiadau’n cau am 11:59pm Ddydd Sul 17 Medi. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn cael eu hystyried.
Rhaid i ni dderbyn enwebiadau drwy’r ffurflen enwebu ar-lein sydd ar gael yn DofE.org/ThisIsYouth. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir drwy e-bost neu drwy unrhyw ddull arall yn cael eu hystyried.
Os byddai’n haws i chi wneud eich enwebiad trwy gyflwyniad fideo neu nodyn llais, mae opsiwn i gynnwys dolen i fideo/ffeil fel rhan o’r ffurflen, yn hytrach nag ateb y cwestiynau yn ysgrifenedig. Dylid cynnwys yr atebion i’r tri chwestiwn cais mewn un ffeil fideo. Mae canllawiau ar sut i uwchlwytho fideo i ddewis o safleoedd isod:
Llwytho ffeiliau a ffolderi i Google Drive – Cyfrifiadur – Cymorth Google Drive
Llwytho fideos YouTube – Cyfrifiadur – Cymorth YouTube (google.com)
Cyngor sylfaenol ar uwchlwytho – Canolfan Gymorth Vimeo
Ychwanegu ffeiliau a ffolderi i’ch cyfrif Dropbox – Cymorth Dropbox
Wrth arbed y ffeil, byddai’n ddefnyddiol i ni pe gallech gynnwys enw’r enwebai a’r categori rydych chi’n eu henwebu ar ei gyfer yn enw’r ffeil.
Ni ddylai’r atebion i bob cwestiwn fod yn fwy na munud o hyd. Dim ond hyd at y terfyn amser y bydd atebion sy’n hirach na munud yn cael eu hystyried.
Mae yna gyfyngiad ar nifer y geiriau ar gyfer pob ateb ysgrifenedig, ac ni fydd y ffurflen enwebu yn gadael i chi ysgrifennu mwy na hyn. Byddem yn awgrymu eich bod yn drafftio’ch atebion mewn dogfen Word neu debyg ac yna’n eu copïo a’u gludo i’r ffurflen enwebu.
Mae croeso i unrhyw un sydd â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i allu dangos yr hyn y mae’r enwebai wedi’i wneud fel rhan o’r DofE wneud yr enwebiad. Gall hyn gynnwys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i: aelodau’r tîm, ffrindiau, Arweinwyr a Rheolwyr DofE, Aseswyr DofE, cynrychiolwyr o’u Sefydliad Trwyddedig, aelodau o’r gymuned a’r rhai yr effeithiwyd yn gadarnhaol arnynt gan y gweithgaredd. Wrth enwebu rhywun, sicrhewch eich bod wedi siarad gyda’r unigolyn hwnnw ac wedi cael eu caniatâd i rannu eu stori cyn cyflwyno’r ffurflen.
Mae croeso i chi enwebu eich hun. Dylid ategu’r ceisiadau gyda thystiolaeth o’r effaith, felly os oes gennych chi unrhyw dystlythyrau gan bobl eraill i gymeradwyo eich cais, bydd hynny’n helpu i sicrhau bod eich cais yn sefyll allan.
Yn bendant! Os ydych chi’n adnabod mwy nag un person y dylem ni glywed eu stori, mae pob croeso i chi eu henwebu. Bydd angen i chi wneud cais ar wahân ar gyfer pob enwebai, oni bai eich bod yn enwebu tîm yn y categori Gwaith Tîm: Sêr Disgleiriaf y Flwyddyn.
Mae croeso i chi enwebu rhywun ar gyfer mwy nag un categori os yw’n berthnasol. Fodd bynnag, dim ond mewn un categori ar y mwyaf y caiff enwebai ei ddewis. Bydd angen i chi gwblhau cais ar wahân ar gyfer pob categori rydych chi am eu henwebu ynddo.
Gan fod enwebiadau’n cynnwys manylion personol ac y bydd angen i ni gysylltu â phawb sy’n cael eu dewis, mae’n hanfodol eich bod wedi cael eu caniatâd i’w henwebu cyn i chi gyflwyno’r ffurflen. Os ydynt o dan 18 oed, rhaid i chi hefyd fod wedi sicrhau caniatâd eu rhiant neu warcheidwad. Mae datganiad ar y ffurflen enwebu er mwyn cadarnhau eich bod wedi cael y caniatâd angenrheidiol.
Rydym eisiau dod i adnabod eich enwebai, felly defnyddiwch eich atebion i adrodd stori a rhoi gwybod i ni pam eu bod yn arbennig. Gwnewch yn si?r eich bod yn ateb y cwestiynau – rydym wedi rhoi rhai awgrymiadau ar gyfer pethau i’w hystyried wrth lenwi’r ffurflen enwebu , ond os oes gennych chi bethau eraill i’w hychwanegu at eich atebion, gwnewch hynny ar bob cyfri – ond gwnewch yn si?r nad ydych chi’n mynd dros y cyfyngiad ar nifer y geiriau!
Cewch uwchlwytho hyd at dri darn ychwanegol o dystiolaeth i gefnogi eich cais ac i wneud eich enwebiad yn un mor gryf â phosib. Gallai hyn gynnwys:
- Ffotograffau o’r enwebai yn gwneud eu gweithgareddau DofE, neu luniau o’u gwaith cyn ac ar ôl y rhaglen.
- Sgrinluniau o bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol neu erthyglau yn y wasg leol.
- Datganiadau cefnogol gan bobl y mae’r enwebai wedi effeithio arnynt.
Wrth arbed y ffeil, byddai’n ddefnyddiol i ni pe gallech gynnwys enw’r enwebai a’r categori rydych chi’n eu henwebu ar ei gyfer yn enw’r ffeil.
Dim ond staff DofE sy’n gweithio ar y prosiect a’r panel beirniadu ar gyfer pob categori penodol fydd yn gweld yr enwebiadau. Ar ôl y beirniadu, cysylltir â’r bobl hynny y mae eu henwebiadau’n cael eu dewis a gofynnir iddynt am ganiatâd bryd hynny i rannu eu stori’n ehangach.
Bydd y panel beirniadu ar gyfer pob categori yn cynnwys o leiaf tri o bobl, gan gynnwys cyfranogwr sy’n gwneud DofE ar hyn o bryd neu wedi gwneud yn ddiweddar. Bydd manylion am y paneli beirniadu’n cael eu rhyddhau ar DofE.org/ThisIsYouth.
Bydd y beirniadu’n digwydd yn seiliedig ar y ceisiadau a’r wybodaeth ategol a gyflwynir drwy’r ffurflen enwebu mewn ymateb i’r cwestiynau ar gyfer pob categori. Ym mhob achos, bydd gallu dangos effaith yn ystyriaeth bwysig.
Bydd pob enwebai, a’u henwebwyr, yn cael eu hysbysu erbyn 31 Hydref 2023 trwy e-bost os bydd yr enwebai’n cael ei ddewis.
Mae penderfyniad DofE yn derfynol ac yn rhwymol ym mhob mater ac ni fyddwn yn ymgymryd ag unrhyw ohebiaeth ar y mater.
Mae pobl ifanc sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon yn gymwys i gael eu henwebu, ni waeth a ydynt yn gweithio tuag at neu wedi cyflawni Gwobr Dug Caeredin neu’r President’s Award.