Blog 17 Tachwedd 2023

Tri o gyfranogwyr DofE yn mynd ‘Tu Hwnt i’r CV’

Ar 10 Tachwedd, aeth cyfranogwyr a chyn-enillwyr DofE draw i swyddfa Llundain Google ar gyfer ein digwyddiad gyrfaoedd blynyddol, Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW. Yn dilyn diwrnod ysbrydoledig yn Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW Manceinion ddiwedd mis Hydref, bu pobl ifanc yn mwynhau rhaglen a oedd yn cynnwys paneli gyda rhai o’r cyflogwyr mwyaf, gweithdai rhyngweithiol, ac araith ysgogol gan Tim Campbell MBE o The Apprentice, sydd â Gwobr DofE ei hun.

Clywch argraffiadau Thomas, Roka ac Oliver am y digwyddiad a sut mae eu DofE wedi cael effaith ar eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.


Thomas, cyfranogwr yn y Wobr Aur a Llysgennad Ieuenctid:

“Y peth roeddwn i’n edrych ymlaen fwyaf ato oedd rhwydweithio a chwrdd â phobl newydd yn Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW, dw i wrth fy modd yn ehangu fy nghylchoedd. Dw i wedi meddwl tipyn am yr hyn dw i eisiau ei gael drwy fy ngyrfa, ac fe hoffwn i fod yn Weinidog neu’n Ficer.

Mae fy Ngwobr DofE wedi fy helpu i fod yn arweinydd a hefyd i gydlynu a chefnogi gr?p, a dw i’n meddwl bod y rhain yn sgiliau allweddol.”

Roka, sydd â Gwobr Arian:

“Roeddwn i’n teimlo mor gyffrous yngl?n â dod i’r digwyddiad. Gwnes i wir fwynhau’r holl gyflwyniadau ac roedd pawb ddaeth i siarad â ni mor glên. Mae’r digwyddiad hwn wedi dangos i mi y gallwch chi wneud unrhyw beth rydych chi eisiau ei wneud, nid beth mae pobl yn dweud y dylech chi ei wneud.

Dw i’n astudio iechyd a gofal cymdeithasol, Maths, Saesneg, a Gwyddoniaeth. Hoffwn i wneud gwyddor fiofeddygol yn y brifysgol er mwyn helpu pobl, dw i’n hoffi dysgu pethau newydd. Mae fy DofE wedi bod yn gymaint o help i mi oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod beth yn union roeddwn i eisiau ei wneud. Gwnes i brofiad gwaith mewn ysbyty, yn dderbynfa Pelydr-X a dw i’n teimlo nawr fy mod i’n barod i wneud yr hyn dw i eisiau ei wneud.

Gwnaeth fy DofE i mi ymddiried mwy yn fy hunan a dysgu pethau newydd, wedi i mi gwblhau fy Ngwobr, roeddwn i’n nabod fy hun yn well ac yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud, roeddwn i’n gwybod y byddai’n fy helpu yn fy nyfodol a phan fydda i’n cyrraedd y brifysgol.

Dw i wedi cael bywyd anodd, dw i wedi dod o Syria yn ystod y rhyfel, roedd fy mhlentyndod yn anodd iawn i mi, ond dangosodd DofE i mi y gallwch chi ei gwneud hi, ac y gallwch chi gyflawni unrhyw beth rydych chi eisiau ei wneud.”

Oliver, cyfranogwr yn y Wobr Aur:

“Doeddwn i ddim yn si?r beth i’w ddisgwyl gan Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW, ond dyma oedd fy nhro cyntaf felly roeddwn i’n edrych ymlaen ato. Dw i’n meddwl fy mod i eisiau mynd i brifysgol i wneud gradd neu wneud rhyw fath o brentisiaeth. Mae fy DofE wedi fy nysgu am waith tîm, gwytnwch a bod yn ddewr.

Cychwynnais i fy DofE er mwyn ei roi ar fy CV ond mi wnes i ei fwynhau lawer mwy nag ro’n i’n meddwl y byddwn i ac mi wnes i ddysgu llawer drwy ei wneud.”

 

Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW 2023. Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddigwyddiadau DofE yn y dyfodol.

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.