Mae mwy o bobl ifanc nag erioed wedi dechrau eu Gwobr Dug Caeredin yn 2022/23 – gyda hanner miliwn yn cymryd rhan weithredol a mwy o ysgolion, sefydliadau cymunedol a charchardai yn cynnal y DofE
Mae mwy na 323,000 o bobl ifanc wedi dechrau eu Gwobr Dug Caeredin (DofE) yn 2022/23, yn ôl ystadegau blynyddol yr elusen – gyda chyfranogwyr wedi cwblhau 3.5 miliwn awr o wirfoddoli yn eu cymunedau ledled y DU.
Mae’r niferodd uchaf erioed, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos fod 537,759 o bobl ifanc yn gweithio tuag at eu Gwobr ledled y DU ar hyn o bryd – cynnydd o 10% ers 2021/22.
Mae’r ffigyrau’n nodi diwedd ail flwyddyn strategaeth bum mlynedd uchelgeisiol y DofE i gyrraedd miliwn o bobl ifanc erbyn 2026 – gan ganolbwyntio ar chwalu rhwystrau i bobl ifanc ar yr ymylon a chyrraedd mwy o ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig, sefydliadau cymunedol, colegau addysg bellach, sefydliadau’n cynorthwyo pobl ifanc gydag anghenion ychwanegol, a charchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc.
Mae’r ystadegau blynyddol yn dangos bod:
- Cyfranogwyr wedi cwblhau 3,541,707 awr o wirfoddoli yn eu cymunedau – cynnydd o 64 y cant ers y llynedd a chyfwerth â £17,035,611 mewn cyflog gweithwyr.
- Dechreuodd 29.9 y cant o holl blant 14 oed y DU ar raglen DofE Efydd.
- Mae 262 o ysgolion uwchradd yn cynnig DofE am y tro cyntaf, gan gynnwys 98 yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Lloegr.*
- Dechreuodd 19 o leoliadau diogel gynnal y DofE, gan gynnwys carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc, unedau diogel, timau troseddwyr ifanc a thimau ymyriadau ieuenctid – gyda chyfanswm o 79 yn ei gynnig erbyn hyn.
- Cynigwyd DofE am y tro cyntaf mewn 72 o sefydliadau cymunedol, 15 coleg addysg bellach, 126 o ganolfannau i bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol a 36 o ganolfannau darpariaeth amgen, yn cynorthwyo myfyrwyr sy’n methu mynychu ysgol brif ffrwd.
Dywedodd Ruth Marvel, Prif Weithredwr Gwobr Dug Caeredin: “Mae’r nifer o bobl ifanc yn manteisio ar y DofE yn uwch nag erioed – sy’n dangos gwerth cyfleoedd fel hyn. Wrth iddynt weld eu hunain yn sownd rhwng y blynyddoedd milain diweddar a dyfodol ansicr, mae cyfleoedd i ddatblygu a thyfu tu allan i’r ystafell ddosbarth yn hanfodol i helpu cael mwy o degwch a rhoi’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y dyfodol.
“Mae pobl ifanc angen ein cymorth fwy nag erioed os ydynt am gael yr un cyfleoedd â’r cenedlaethau blaenorol – a dyna pam ein bod yn benderfynol o ddal ati i chwalu rhwystrau rhag gallu cymryd rhan a chyrraedd cymaint o bobl ifanc â phosibl.”
Chwalu’r rhwystrau
Wrth i bobl ifanc lywio effeithiau’r pandemig, ynghyd ag argyfwng iechyd meddwl a chostau byw, mae hawl i gyfleoedd datblygu’n bersonol yn gallu eu helpu i ddod o hyd i dalentau a brwdfrydedd newydd, i adeiladu eu gwytnwch a hunan gred a rhoi’r sgiliau hanfodol mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi – megis gwaith tîm, datrys problemau ac arwain.
Mae’r DofE yn gweithio i sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan – yn enwedig y rhai all wynebu rhwystrau, megis pobl ifanc sy’n byw mewn tlodi neu sydd ag anghenion ychwanegol.
Ers 2021, mae’r elusen wedi:
- Dechrau gwaith yn cynorthwyo mwy o ysgolion yn Lloegr i ddechrau cynnal y DofE – gan gynnig arian grant a chymorth wedi ei deilwra, gyda chymorth yr Adran Addysg a’r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.**
- Ymestyn y ddarpariaeth i garchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.
- Dechrau prosiect uchelgeisiol i gynorthwyo mwy o sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i gynnal y DofE drwy gynnig arian grant, hyfforddiant a chymorth wedi ei deilwra, diolch i arian gan Ymddiriedolaeth Julia and Hans Rausing***
- Lansio prosiect y DU gyfan o gynorthwyo mwy o bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol i gyflawni eu DofE.
Yn ystod y flwyddyn hon, bydd Gwobr Dug Caeredin yn ehangu i fwy o ysgolion, sefydliadau cymunedol, carchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc, yn cyrraedd mwy o bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol, a datblygu cynllun gweithredu i ddeall a chael gwared ar ffactorau sy’n rhwystro pobl ifanc ar yr ymylon rhag cymryd rhan.
Stori: Aspire 2 Inspire
Dechreuodd Aspire 2 Inspire Communities yn Rochdale gynnal Gwobr Dug Caeredin yn 2022, diolch i grant gan gronfa Access Without Limits y DofE, gyda chymorth Ymddiriedolaeth Julia and Hans Rausing.
Mae Aspire 2 Inspire yn sefydliad cymunedol sydd â’r nod o rymuso, addysgu ac annog pobl ifanc i chwalu rhwystrau a chyflawni cerrig milltir. Mae’n cynorthwyo ei gymdogaeth leol gyda mentrau yn cynnwys gweithdai, clybiau plant a banc bwyd, ac yn gweithio gyda phobl ifanc o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, cymunedau newydd, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, teuluoedd sy’n wynebu caledi ariannol a phobl ifanc gydag anghenion ychwanegol, anableddau ac anawsterau ieithyddol.
Lansiodd Kalsoom Khanum Aspire 2 Inspire yn 2019. Dywedodd: “Pan holwyd ni am DofE meddyliais: ‘Gant y cant, rwyf eisiau ei wneud yn Aspire.’ Mae’n freuddwyd. Nid dim ond rhoi cyfle i blant gael sgiliau newydd ydyn ni – maent yn cael rhywbeth achrededig. Bydd ganddynt rywbeth i’w ddangos.
“Rydym yn darparu’r adrannau Corfforol, Sgiliau a Gwirfoddoli yn fewnol. Yr wythnos ddiwethaf cafwyd y dasg Gorfforol gyntaf a dim ond un o’r 16 merch oedd wedi gwneud bocsio neu hunan-amddiffyn o’r blaen. Felly, i mi, roedd hynny’n bwerus oherwydd rydym yn rhoi gymaint o gyfleoedd iddyn nhw. Nid yw ynghl?n â’r ochr Gorfforol yn unig – un o’r pethau yr ydym yn gobeithio ei ddarparu’n fewnol yw adeiladu hyder, ysgrifennu CV, technegau cyfweliad a siarad a thrafod. Rwy’n gobeithio y bydd DofE yn helpu ein pobl ifanc gyda phopeth mewn bywyd.”
Mae Habeeba, 18, yn gweithio tuag at ei Gwobr Dug Caeredin Aur ac yn cynorthwyo cyfranogwyr iau yn Aspire 2 Inspire. Dywedodd: “Rwy’n helpu fel Arweinydd DofE gyda chyfranogwyr Efydd, yn egluro fy mhrofiad, helpu nhw i ddeall sut i baratoi eu hunain yn well a’u cynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallaf. Credaf ei bod yn eithriadol o bwysig, fel dynes ifanc sy’n Fwslim, i bobl fy nghymuned ddeall nad yw DofE ar gyfer pobl o ddiwylliannau eraill yn unig, y gallwn ni gymryd rhan hefyd.
“Mae’n cynnwys mwy na gwersylla yn unig – mae’n ymwneud â gwirfoddoli, gwneud pethau corfforol a dysgu sgiliau newydd sydd, yn fy marn i, yn gyfle gwych i bobl ifanc gamu oddi wrth waith ysgol a gwella eu sgiliau bywyd. Mae Prifysgol a hyd yn oed cyflogwyr yn chwilio am y math yma o beth, felly mae DofE yn gyfle gwych i osod pethau ar gyfer bywyd yn y dyfodol.”
I gyflawni eu DofE, mae pobl ifanc 14-24 oed yn dewis eu gweithgareddau eu hunain i gwblhau adrannau Corfforol, Sgiliau a Gwirfoddoli, ac Alldaith a Gwersylla Dros Nos ar y lefel Aur. Maent yn cael hwyl, yn darganfod diddordebau newydd, yn rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau, yn magu gwydnwch a hunan-gred, ac yn datblygu sgiliau hanfodol mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi – wrth weithio tuag at Wobr sy’n cael ei chydnabod a’i pharchu’n eang.