Nid ffair yrfaoedd arferol arall ydy Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW: Tu Hwnt i’r CV, dyma gyfle i gyfoethogi eich siwrnai DofE ac i sylweddoli nad oes cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch ei gyflawni yn y gweithle.
Beth i’w ddisgwyl ar y dydd
Yn ystod y digwyddiad, byddwch chi’n clywed beth mae’r cyflogwyr mwyaf yn chwilio amdano pan fyddan nhw’n penodi pobl, yn cael eich ysbrydoli gan bobl ifanc sy’n torri eu cwys eu hunain yn eu gyrfaoedd, ac yn cwrdd â chyflogwyr a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc er mwyn cael gwybod am y gwahanol lwybrau gyrfa ar draws gwahanol ddiwydiannau sydd ar gael i chi.
Byddwch chi hefyd yn cael cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol i ystyried sut i sicrhau profiad gwaith, cynghorion ar gyfer paratoi am gyfweliad, mathau effeithiol o gyfathrebu, sut i adrodd eich stori bersonol a mwy!
Mae mynychu’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Bydd cinio a lluniaeth drwy’r dydd yn cael eu darparu, yn ogystal â deunyddiau sydd eu hangen er mwyn cyfranogi’n llawn yn y digwyddiad. Bydd angen i fynychwyr fod yn gyfrifol eu hunain am deithio i’r digwyddiad ac oddi yno.
Pwy sy’n gallu mynychu?
Mae’r digwyddiad yn gwbl hygyrch ac yn agored i rai sy’n cymryd rhan yn DofE ar hyn o bryd a’r rhai sydd wedi ennill Gwobr sydd rhwng 16-19 oed. Mae’r diwrnod wedi’i gynllunio â phobl ifanc mewn golwg a bydd yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth gwerthfawr, p’un ai ydych chi’n dal yn yr ysgol ac yn dechrau meddwl am eich opsiynau o ran gyrfa, mewn addysg bellach, neu wedi cychwyn ym myd gwaith eisoes.
Sut i ymrestru
Ar gyfer Sefydliadau Trwyddedig
Gwahoddir Sefydliadau Trwyddedig i gofrestru eu diddordeb mewn dod â grwpiau o bobl ifanc i’r digwyddiad. Rhaid i o leiaf un oedolyn o’r Sefydliad Trwyddedig fynychu gyda nhw.
Cofrestrwch eich diddordeb drwy ddefnyddio’r ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi o fewn pythefnos i roi gwybod i chi a oes llefydd i chi yn y digwyddiad. Does dim angen i chi ddarparu enwau’r bobl ifanc fydd yn mynychu ar hyn o bryd, byddwn yn cysylltu â chi ym mis Ionawr gyda’r rhaglen lawn ar gyfer y dydd ac i ofyn am enwau, anghenion deietegol ac anghenion mynediad y rhai fydd yn mynychu.
Ieuenctid Heb Gyfyngiadau BYW: Cymru
Cofrestrwch eich diddordeb