Ein huchelgais
Mae miliynau wedi trawsnewid eu bywydau drwy’r DofE. Rydym nawr eisiau galluogi pob person ifanc yn y DU i fwynhau ei buddion. Erbyn 2020/21 rydym yn anelu at:
– Gynyddu’r nifer o bobl ifanc sy’n dechrau rhaglen DofE bob blwyddyn i 350,000 (287,937 ffigwr 18/19), gyda 20% (70,000) o gefndiroedd difreintiedig.
– Sicrhau cyfradd gwblhau gyfartalog o 60+%.
Sut ydym yn gweithredu
Rydym yn trwyddedu ac yn cefnogi ystod o sefydliadau gan gynnwys: ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid, sefydliadau troseddwyr ifanc, asiantaethau maethu ac ysbytai i gynnal rhaglenni DofE ar gyfer eu pobl ifanc.
Mae ein Tîm Rheoli Gweithredol yn cydweithio i dyfu’r ddarpariaeth o’r DofE fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cael y cyfle hwn sy’n newid bywydau.
Mae ein Hymddiriedolwyr yn pennu cyfeiriad strategol yr elusen, yn monitro’r gwaith o gyflawni ei hamcanion ac yn cynnal ei gwerthoedd a llywodraethiant.
Mae yna lawer o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yn digwydd yn y DofE felly p’un a ydych yn ysgrifennu erthygl am brentisiaethau neu wirfoddoli, sgiliau bywyd neu dderbyniadau prifysgol, gallwn helpu.
Ar gyfer newyddion DofE, straeon pobl ifanc a datganiadau i’r wasg, edrychwch ar Y Diweddaraf.
Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cyffredinol yn ymwneud â Gwobr Dug Caeredin, cysylltwch â 01753 727400 neu [email protected]. Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau brys y tu allan i oriau ffoniwch 07557 286560.
Mae’r DofE yn falch o fod yn rhan o Sefydliad Gwobrwyo Rhyngwladol Dug Caeredin sy’n cefnogi gweithredwyr mewn mwy na 130 o wledydd a thiriogaethau i ddarparu DofE a chynyddu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc.
Hanes
Ystyriodd Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin y syniad o raglen genedlaethol i gefnogi datblygiad pobl ifanc, am y tro cyntaf yn ystod hydref 1954 ar gais ei gyn ysgolfeistr ysbrydoledig, Kurt Hahn.
Yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, roedd Ei Uchelder Brenhinol eisiau llenwi’r bwlch rhwng gadael addysg ffurfiol yn 15 oed a mynd i mewn i’r Gwasanaeth Cenedlaethol yn 18 oed, fel bod dynion ifanc yn gwneud y defnydd gorau o’u hamser rhydd, yn canfod diddordebau ac yn caffael hunanhyder a synnwyr o bwrpas a fyddai’n eu cefnogi i’r dyfodol ac yn eu helpu i ddod yn ddinasyddion cadarn.
Yn dilyn trafodaethau gyda’r Gweinidog Addysg ym 1955, ymgynghorydd Dug Caeredin â nifer o sefydliadau ieuenctid, gwirfoddol, cenedlaethol ag aelodau ‘bechgyn’ gyda’r bwriad o ddechrau cynllun peilot.
Dan arweiniad Syr John Hunt (yr Arglwydd Hunt yn ddiweddarach), a ddarparodd y gweinyddu a’r cydlynu angenrheidiol ymhlith y sefydliadau partner fel y Cyfarwyddwr cyntaf, lansiwyd cynllun peilot ar gyfer Gwobr Dug Caeredin ym mis Chwefror 1956. Roedd gan y rhaglen bedair rhan; Achub a Gwasanaeth Cyhoeddus, Alldeithiau, Gorchwylion a Phrosiectau, a ffitrwydd, a fyddai’n cefnogi, arwain ac uwchsgilio dynion ifanc yn holistaidd yn ôl gweledigaeth y Dug.
I ddechrau arni, dim ond sefydliadau ieuenctid gwirfoddol, cenedlaethol oedd yn rhan o’r cynllun peilot a mynychodd nifer gynhadledd gynllunio yng Ngholeg Ashridge yn Swydd Hertford ym mis Mawrth, 1956. Fodd bynnag, yn fuan iawn ehangwyd y rhaglen i gynnwys Awdurdodau Addysg Lleol, y Llynges, y Fyddin a’r Awyrlu Brenhinol, a llond llaw o ysgolion annibynnol a gramadeg ledled y DU. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, roedd 7,000 o fechgyn wedi dechrau rhaglen DofE ac roedd 1,000 o Wobrau wedi cael eu dyfarnu.
Yn wir, roedd y cynllun peilot mor llwyddiannus nes erbyn yr ail flwyddyn, roedd cynlluniau peilot tramor bychain a rhaglen ar gyfer merched wedi cael eu sefydlu. Ar ben hynny, roedd nifer y sefydliadau a phobl ifanc a oedd yn cymryd rhan wedi mwy na dyblu.
Parhaodd y DofE i esblygu dros y degawdau dilynol ac ym 1980 ymestynnwyd y terfyn oedran fel bod unrhyw berson ifanc rhwng 14 a 24 oed yn gallu cymryd rhan. Ar yr adeg hon, dechreuodd y rhaglenni DofE ddefnyddio eu fformat pedair rhan presennol: Gwirfoddoli, Corfforol, Sgiliau ac Alldaith, gydag adran Breswyl ychwanegol ar lefel Aur.
Mae poblogrwydd y rhaglen yn parhau i dyfu, gyda dros 130 o wledydd a thiriogaethau, bellach, yn cynnig rhaglenni DofE fel rhan o Sefydliad Gwobrwyo Rhyngwladol Dug Caeredin. Yn y DU yn 2018/19, dechreuodd 287,937 o bobl ifanc raglen DofE a dyfarnwyd y nifer mwyaf erioed o Wobrau, 153,284 drwy ysgolion, colegau, prifysgolion, clybiau ieuenctid, busnesau, cymdeithasau tai, sefydliadau troseddwyr ifanc, sefydliadau gwirfoddol a mwy.