“Ok Google: Sut ydw i’n canfod fy ffordd drwy fy ngyrfa?”
Gall camu i fyd gyrfaoedd fod yn gyffrous ond hefyd ychydig yn arswydus. Fel person ifanc sy’n dechrau meddwl am eich dyfodol, mae’n ddealladwy y gall fod gennych lawer o gwestiynau.
Buon ni’n chwilio’r rhyngrwyd am y cwestiynau mwyaf llosg yngl?n â gyrfaoedd a pha le gwell i gael atebion i’r cwestiynau hynny na’n digwyddiad Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW a gynhaliwyd yn swyddfa Llundain Google, ble daeth rhai o’r cyflogwyr mwyaf ac arbenigwyr diwydiant i ymuno â ni.
Fe ofynnoch chi, fe atebon nhw.
1. Pa gyngor allwch chi ei roi i rywun sy’n nerfus yngl?n â chyfweliad swydd?
“Fy nghyngor cyntaf fyddai byddwch yn hyderus bob amser! Ewch i mewn yn gwybod beth yw’ch sgiliau a phwy ydych chi, a gwnewch yn si?r eich bod yn cytuno â gwerthoedd a gweledigaeth y cwmni. Mae hwn yn llawn cymaint o gyfweliad i chi ag iddyn nhw.”
– Natasha, arbenigwr estyn allan a datblygu Stem yn UKPN
“Paratowch! Meddyliwch am beth rydych chi’n ymgeisio a chymharwch eich CV â’r rôl honno, peidiwch â phoeni am ysgrifennu nodiadau – ewch â’r nodiadau hynny i mewn gyda chi. Mae hynny’n dangos i gyfwelydd eich bod wedi paratoi, mae hynny’n beth da a bydd o gymorth i chi os byddwch chi’n nerfus. Felly os byddwch chi’n mynd ar goll ac yn gwegian, peidiwch ag ofni oedi a dweud ‘arhoswch funud, gaf fi gael cip ar fy nodiadau?’ Bydd pob cyfwelydd yn parchu hynny ac yn gwybod: un – rydych chi’n awyddus i wneud y peth yn iawn, a dau – rydych chi wedi paratoi, sy’n golygu ei fod yn bwysig i chi a bydd hynny’n bwysig iddyn nhw.”
– Karen Hopley, Cyfarwyddwr Pobl yn Amey
2. Beth yw’ch cyngor gyrfa gorau?
“Byddwch yn chi’ch hun bob amser. Dw i wastad yn ymfalchïo mewn gwneud ffrindiau fel yr ydw i, dod i nabod fy nghydweithwyr ac fel hynny, mae gennym ni ddeinameg tîm da bob amser sy’n cynhyrchu gwaith gwych.”
– Natasha Paramasamy, arbenigwr estyn allan a datblygu Stem yn UKPN
“Siaradwch â phobl, defnyddiwch Google (dw i ddim yn chwarae ar eiriau!) Mae gen i fentor a dw i’n 40 oed, rydych chi wastad yn dysgu.”
– Leon Whitley, Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol ym Mrigâd Dân Llundain
3. Sut ydw i’n gwybod pa yrfa ydy’r un iawn i mi?
“Mae’n wirioneddol bwysig eich bod yn gwahaniaethu rhwng eich hunan a’r ymgeiswyr eraill sydd yn eich erbyn. Bydd pobl yn meddwl yn aml bod rhaid iddyn nhw wneud hynny drwy gymwysterau a phrofiad, ond beth sy’n wirioneddol bwysig ydy eich agwedd, eich ymroddiad i waith a’ch gallu i oresgyn heriau ac mae DofE yn ffordd wych o ddangos eich agwedd tuag at waith. Mae’n anodd, felly siaradwch am ba mor anodd ydoedd a sut gwnaethoch chi balu’n ddwfn i ddod trwy’r holl heriau gwahanol hynny oedd yn eich wynebu.”
“Meddyliwch am swyddi rhan-amser ac adegau rydych chi wedi goresgyn pethau anodd a gweithio gyda chwsmeriaid anodd, oherwydd rydyn ni’n recriwtio ar sail agwedd ac yna’n hyfforddi ar gyfer potensial. Gallwch chi gael pobl sydd wedi dod atoch chi gyda chymwysterau gwych ond os yw’r agwedd anghywir ganddyn nhw, allwch chi mo’u hyfforddi nhw, ond os oes gennych chi rywun sydd o bosib heb y cymwysterau neu’r profiadau hynny – os ydy’r agwedd iawn ganddyn nhw, gallwn ni eu hyfforddi nhw. Felly meddyliwch am eich agwedd, eich ymroddiad i waith a’r profiadau rydych chi wedi’u cael a sut gallwch chi gyfleu’r rheiny mewn cyfweliadau.
– Karen Hopley, Cyfarwyddwr Pobl yn Amey
4. Sut gallaf fi ganfod fy amcanion o ran gyrfa?
“Peidiwch â gadael i arian fod yn brif gymhelliant i chi oherwydd mai dim ond hyd at ryw bwynt y bydd hynny’n eich cynnal. Gofynnwch i chi’ch hun: Sut beth ydy mwynhau’r gwaith rydych chi’n ei wneud? Beth yw’r peth pwysicaf i chi pan fyddwch chi’n chwilio am swydd? Neu’r tri pheth pwysicaf? Pan fyddwch chi’n meddwl beth rydych chi am ei gael o’ch gyrfa, edrychwch ar y pethau rydych chi’n mwynhau eu gwneud eisoes?
– Tîm Google Digital Garage
5. Sut gall fy Ngwobr DofE fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa?
“Yn ystod eich DofE, un o’r sgiliau pwysicaf rydych chi’n ei ddysgu ydy gwaith tîm, ac mae hynny’n sgil arbennig o dda i’w drosglwyddo i’r gwasanaeth tân. Mae cadw amser a thrin pobl â pharch hefyd yn ddau sgil trosglwyddadwy gwych o’ch Gwobr DofE i’r gweithle.”
– Leon Whitley, Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol ym Mrigâd Dân Llundain
“Mae’r DofE yn ffordd i ehangu eich CV a mynd y tu hwnt i hynny. Mae’n rhywbeth na allwch ei ddysgu mewn llyfrau neu ystafell ddosbarth, mae’n rhoi gwir fantais i chi dros ymgeiswyr eraill. Pan fyddwch chi’n siarad am eich DofE, mewn cyfweliad er enghraifft, meddyliwch am y straeon; efallai eich bod wedi mynd ar goll yn y glaw yn ystod eich alldaith? Sut gwnaethoch chi oresgyn yr her honno? Os bydda i’n gweld DofE ar CV, dw i’n gwybod yn syth bod gen i rywun sy’n gallu goresgyn heriau ac sy’n gydnerth.”
– Karen Hopley, Cyfarwyddwr Pobl yn Amey
6. Pa neges sydd gennych chi i bobl ifanc wrth iddyn nhw fynd i mewn i fyd gwaith?
“Dw i wir eisiau i chi ganolbwyntio ar pwy ydych chi. Rydyn ni’n treulio cymaint o amser yn edrych ar bawb arall ac yn meddwl ‘beth maen nhw wedi’i wneud?’ Mae rhaid i chi gofio, chi ydy’r un arbennig yn y sgwrs hon, oherwydd dylech chi edrych yn y drych a dweud ‘beth sydd gen i? Beth sydd gen i i’w gyfrannu? Sut galla i ychwanegu gwerth?’ Canolbwyntiwch arnoch chi’ch hunan, mae ôl eich bys yn unigryw am reswm.”
– Tim Campbell MBE