Blog 15 Tachwedd 2024 By Freya, 2024-25 DofE UK Youth Ambassador

Diwrnod ym Mywyd Llysgennad Ieuenctid yn Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW

Two women stand on stage in front of a large screen displaying a "Pre-first day checklist." The setting is a modern conference room with an audience seated in front. The stage features a podium with a sign that reads "LIVE WITHOUT LIMITS." The atmosphere is professional and engaging.

Ddechrau mis Tachwedd, heidiodd cannoedd o bobl ifanc i swyddfeydd Google yn Llundain ar gyfer Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW: Tu Hwnt i’r CV. Mae ein digwyddiad cyflogadwyedd rhyngweithiol blynyddol yn helpu pobl ifanc i fagu hyder ac i ymchwilio i lwybrau tuag at gyflogaeth drwy weithdai a thrafodaethau panel gyda rhai o’r prif gyflogwyr.

Un o’r rhai oedd yno oedd Freya, sy’n Llysgennad Ieuenctid DofE. Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod sut brofiad oedd ei digwyddiad Tu Hwnt i’r CV cyntaf hi.


Dechreuais fy niwrnod gyda choffi cyflym a thaith ar y Tiwb i Google, Llundain. Wrth i mi gyrraedd, roedd Ash ac Ali, Rheolwyr Prosiect hyfryd y Llysgenhadon Ieuenctid, yno i’m croesawu. Yna, fe gamais i mewn i lifft Google i’r digwyddiad, ac roedd hynny’n teimlo fel cychwyn perffaith i ddiwrnod cyffrous oedd o’m blaen.

Wrth i mi fynd i mewn i’r brif ardal, cefais sgyrsiau brwdfrydig gyda’r Llysgenhadon Ieuenctid eraill tra roeddem yn mwynhau ein croissants. Cawsom gyfle i siarad â rhai sydd wedi ennill Gwobrau DofE am eu profiadau a’r effaith y mae DofE wedi’i chael ar eu bywydau. Yna, am 10am, dechreuodd y digwyddiad gydag araith ysbrydoledig gan Brif Swyddog Gweithredol DofE, Ruth Marvel MBE. Roedd hi’n pwysleisio’r ffordd y mae’r sgiliau gaiff pobl drwy DofE, y rhai hynny nad ydynt yn hawdd eu datblygu yn yr ystafell ddosbarth, yn rhai sy’n hollbwysig yn y gweithle heddiw. Roedd yn neges gref i’n hatgoffa o werth DofE i bobl ifanc!

Sesiwn gyntaf y dydd oedd ‘Sgiliau’r Dyfodol’ dan arweiniad Vicki Sanderson o MTC a Lionel Mason o NEXT. Buon nhw’n egluro mai’r hyn sy’n gwneud i ymgeiswyr sefyll allan ydy’r angerdd a’r brwdfrydedd y bydden nhw’n ei gynnig mewn swydd. Roedden nhw’n ein hannog hefyd i amlygu’r gwaith tîm a’r gwytnwch wnaethon ni eu meithrin drwy ein DofE. Roedd eu neges yn glir: gwnewch y gorau o bob cyfle, dysgwch o’r heriau a wynebwch a defnyddiwch y profiadau hynny i wella.

A diverse group of young people attentively listening during a presentation or event. They are seated in a semi-circle, with expressions of focus and engagement. Some individuals are wearing lanyards, and the background features soft lighting, creating a vibrant atmosphere.

Ar ein pennau wedyn i’r gweithdy nesaf: ‘Datgloi eich Dyfodol’ gan Balfour Beatty, lle buon nhw’n rhannu syniadau yngl?n â llunio CV, ysgrifennu llythyr eglurhaol a gweithio’ch ffordd drwy brofion seicometrig. Yr uchafbwynt i mi oedd eu bod wedi’n hatgoffa ni i beidio â bod ofn cael ein gwrthod ond yn hytrach i ystyried adborth yn arf ar gyfer twf.

Wedi cael pizza cwbl haeddiannol i ginio, bûm yn sgwrsio â Llysgenhadon Ieuenctid eraill cyn mynd i sesiwn bwerus ar ‘Adrodd Straeon Personol’ dan arweiniad Richard o Loudspeaker. Roedd ei neges yn rhoi digon o gymhelliant: roedd yn ein hatgoffa bod pob un ohonom yn anhygoel a bod dyfodol disglair o’n blaenau ni. Roedd yn ein hannog i gofleidio methiannau a heriau gan eu bod yn hanfodol er mwyn llwyddo a does dim rhaid dweud bod ei eiriau wedi ein hysbrydoli a’n grymuso ni oll.

Nesaf, ymunom ni â thrafodaeth ‘Canfod ein Ffordd trwy’r Dyfodol’, ble buodd Emily a Hannah sydd â Gwobrau Aur, yn rhannu eu canfyddiadau yngl?n a phwysigrwydd y gallu i ymaddasu a’r angen i roi blaenoriaeth i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae Emily yn Gyfarwyddwr Perfformiad a Gweithrediadau i’r GIG (ac roedd yn Llysgennad Ieuenctid DofE yn 2022-23!) a Hannah ydy cydsylfaenydd cwmni podlediadau ‘Mags Creative’. Eu cyngor nhw oedd i ni beidio â chymharu ein teithiau mewn bywyd â phobl eraill gan mai “cymharu yw lleidr llawenydd”, ac roedd hynny’n broc bach i’n hatgoffa ni oll.

Ar ôl egwyl sydyn gyda the a myffins, daethom ynghyd am y tro olaf ar gyfer araith gan y prif siaradwr, Tim Campbell MBE. Siaradodd ag angerdd yngl?n â chymryd rheolaeth dros ein sefyllfa yn hytrach na bodloni ar yr hyn gaiff ei roi i ni. Roedd clywed ei farn yngl?n a sut i gychwyn a hyrwyddo busnes yn berson ifanc yn procio’r meddwl ac fe wnaeth ein hannog i ystyrid a ydym eisiau gweithio i fyw neu fyw i weithio.

 

A diverse group of young people poses together in a modern event space, smiling and making playful gestures. They are wearing matching navy blue shirts and are arranged in a dynamic formation, with some individuals standing and others kneeling or sitting. The background features a large screen with the text "Thank You!" and social media handles, creating a vibrant and energetic atmosphere.

I gloi’r diwrnod llwyddiannus, cawsom dynnu ein llun fel gr?p o Lysgenhadon Ieuenctid. Wrth feddwl yn ôl am y digwyddiad, roeddwn yn mynd oddi yno’n teimlo’n llawer mwy hyderus yngl?n â’r trawsnewid sydd i ddod o fyd addysg i fyd gwaith. Roedd wedi fy helpu i werthfawrogi’r ffordd y mae fy ngwobrau DofE wedi fy arfogi ar gyfer cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol!

Darllenwch fwy am ein digwyddiadau Ieuenctid Heb Gyfyngiadau YN FYW: Tu Hwnt i’r CV yma.

Opportunity Finder

This link opens an external site. All content is not affiliated with DofE. Please click proceed if you understand these risks.